Dydd Sul fe fydd Zebre yn herio’r Dreigiau.

Mae hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards wedi dewis ei chwaraewyr profiadol ar gyfer y daith.

Bydd Adam Hughes, Ashley Smith, Wayne Evans a Phil Price yn dechrau’r gêm yn erbyn y tîm o’r Eidal.

Bydd y canolwr Adam Hughes yn chwarae ar un asgell a Hallam Amos yr asgell arall.  Pat Leach a Ashley Smith fydd y canolwyr.  Y tro diwethaf iddynt ddechrau yn y canol gyda’i gilydd oedd yn y fuddugoliaeth o 53-3 yn erbyn Mogliano.

‘‘Ers i ni ei chwarae ar ddechrau’r tymor maent wedi gwella yn fawr yn arbennig ymysg y blaenwyr.  Felly mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn rhoi perfformiad da yn ystod y gêm,’’ dywedodd Phil Price.

‘‘Yr wyf yn dychwelyd i’r tîm gyda agwedd mwy cadarnhaol.  Yr wyf wedi gweithio’n galed i ennill fy lle yn y tîm gan obeithio cadw fy lle fel rhan o’r tîm yn ystod gweddill y tymor.  Yr ydym yn edrych ymlaen at y gêm ac wedi tynnu at ein gilydd,’’ ychwanegodd Price.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Dan Evans, Adam Hughes, Pat Leach, Ashley Smith, Hallam Amos, Steffan Jones a Wayne Evans.

Blaenwyr – Phil Price, Hugh Gustafson, Nathan Buck, Ian Nimmo, Adam Jones, Lewis Evans (Capten), Nic Cudd a Ieuan Jones.

Eilyddion – Sam Parry, Owen Evans, Dan Way, Rob Sidoli, Jevon Groves, Jonathan Evans, Tom Prydie a Jack Dixon