Bydd tîm pêl-droed Norwich yn tynnu enw eu noddwyr oddi ar eu crysau ar gyfer eu gêm ddydd Sadwrn.

Yn lle logo Aviva, fe fydd y Caneris yn arddangos logo’r elusen i blant, Railway Children pan fyddan nhw’n herio Everton yn Heol Carrow.

Dyma’r ail flwyddyn o’r bron mae Aviva wedi penderfynu rhoi arian o’r cytundeb noddi i’r elusen.

Cafodd £10,000 ei godi y llynedd ar gyfer yr elusen sy’n helpu plant o dan 16 oed sydd wedi rhedeg i ffwrdd o’u cartrefi.

Railway Children

Maen nhw’n dweud bod un plentyn yn rhedeg i ffwrdd o’i gartref bob pum munud ym Mhrydain, neu 18 o blant yn ystod un gêm bêl-droed, ar gyfartaledd.

Mae tlodi, trais, camdriniaeth ac amddifadu ymhlith y rhesymau pam fod plant yn cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi, yn ôl yr elusen.

Dywedodd rheolwr Norwich, Chris Hughton: “Fel tad fy hun, alla i ddim hyd yn oed dechrau dychmygu sut deimlad fyddai cael eich plentyn eich hun yn rhedeg i ffwrdd o adref.

“Mae’r ffaith fod 18 o blant, yn ôl amcangyfrifon, yn rhedeg i ffwrdd yn ystod gêm ar ddydd Sadwrn yn adrodd cyfrolau.”

Bob tro y bydd neges yn cael ei thrydaru ddydd Sadwrn gan ddefnyddio’r hash-nod #1every5, bydd Aviva yn rhoi £1 i’r elusen Railway Children.