Heno mi fydd y Gweilch yn croesawu Caeredin i Stadiwm y Liberty.

Bydd capten y Gweilch Kahn Fotuali’i yn symud o safle’r mewnwr i chwarae ar yr asgell oherwydd bod yr asgellwr, Ross Jones wedi ei wahardd am dair wythnos.  Rhys Webb fydd yn chwarae fel mewnwr.

Mae canolwr Cymru Ashley Beck ar y fainc wrth dychwelyd ar ôl anaf, a bydd prop rhyngwladol Cymru Ryan Bevington yn y tîm.

Ni fydd yr wythwr Joe Bearman ar gael gan iddo yntau gael gwaharddiad o bedair wythnos yn dilyn tacl beryglus yn y gêm a gollwyd yn erbyn Connacht o 22-10.

‘‘Nid oes lle i gamgymeriadau, rhaid rhoi perfformiad da os ydym am sicrhau lle yn y gemau ail gyfle,’’ meddai hyffroddwr y Gweilch, Steve Tandy.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Richard Fussell, Tom Habberfield, Tom Isaacs, Jonathan Spratt, Kahn Fotuali’i (Capten) Matthew Morgan a Rhys Webb.

Blaenwyr – Ryan Bevington, Scott Baldwin, Cai Griffiths, Lloyd Peers, Jonathan Thomas, James King, Morgan Allen a Sam Lewis.

Eilyddion – Matthew Dwyer, Marc Thomas, Dmitri Arhip, Sam Williams, George Stowers, Arthur Ellis, Ashley Beck a Tom Grabham.