Mae Abertawe yn cyrraedd Wembley ar ôl eu colled waethaf yn yr Uwch Gynghrair dros y ddau dymor, a honno yn erbyn Lerpwl o 5-0 penwythnos diwethaf.
Ond mae Michael Laudrup yn gwrthod gadael i’r grasfa honno effeithio ar baratoadau ei dîm ar gyfer uchafbwynt tymor eu canmlwyddiant.
“Ers curo Chelsea, ry’n ni wedi chwarae yn erbyn Sunderland a West Ham, ac yna QPR. Aeth y gêm yn erbyn Lerpwl ddim yn dda iawn. Efallai bod honno’n rhy agos at y rownd derfynol yma. Ond nawr, ry’n ni dridiau i ffwrdd o’r rownd derfynol ac yn edrych ymlaen ati’n fawr.
“Rownd derfynol yw hi, wedi’r cyfan. Mae rowndiau terfynol bob amser yn anodd darogan. Ry’n ni’n derbyn mai ni yw’r ffefrynnau am y rheswm syml mai ni sydd yn yr Uwch Gynghrair a Bradford sydd yn yr Ail Adran.
‘Stori tylwyth teg’
“Stori tylwyth teg fach yw ein bod ni yn y rownd derfynol, ond mae’n stori tylwyth teg enfawr i Bradford.
Er yr agendor sydd rhwng y ddau dîm, byddai’n ffôl pe bai Abertawe’n disgwyl ennill yr ornest hon. Wedi’r cyfan, mae Bradford eisoes wedi curo rhai o fawrion yr Uwch Gynghrair, gan gynnwys Aston Villa ac Arsenal.
“Ry’n ni’n sôn am greu hanes yma, ac mae hanes yn dangos y gallen nhw ennill y gêm hon. Rhaid i ni gymryd yr awenau.
“Byddan nhw’n gwrth-ymosod ac maen nhw wedi bod yn gryf iawn ar chwarae gosod trwy gydol y gystadleuaeth.
“Yn anaml iawn y gwelwch chi rownd derfynol fawr rhwng tîm bach yn yr Uwch Gynghrair a thîm o’r adrannau is. Fel arfer, mae tîm o’r chwech uchaf yn yr Uwch Gynghrair yn cymryd rhan. Ond mae’r gêm eleni ychydig yn wahanol.”
“Mae’n rownd derfynol ryfedd, ond mae’r ddau dîm sy’n cymryd rhan wedi curo Chelsea, Lerpwl, Aston Villa a Wigan ar y ffordd.”
Gêm wahanol i’r arfer
Mae’r gêm eleni yn wahanol ar sawl lefel, nid lleiaf am y bydd 33,000 o gefnogwyr Abertawe yn bresennol yn Wembley, sy’n fwy o lawer na’r 20,000 y mae Stadiwm Liberty yn eu dal.
“Bydd yn rhaid i ni gymryd yr awenau yn y gêm. Dydy hynny ddim yn broblem i ni. Ry’n ni hefyd yn derbyn y bydd y mwyafrif o gefnogwyr niwtral yn cefnogi Bradford.
“Yn ffodus i ni, mae llawer o gefnogwyr gyda ni yn Nenmarc, Sbaen, Corea a’r Iseldiroedd felly bydd hen ddigon gyda ni hefyd!”