Connacht 22–10 Gweilch
Colli fu hanes y Gweilch yn y RaboDirect Pro12 nos Wener wrth deithio i Faes Chwarae Galway i herio Connacht.
Sgoriodd y ddau dîm gais yr un ond roedd cyn faswr y Gleision, Dan Parks, yn ddraenen yn ystlys y Gweilch wrth i 17 pwynt o’i droed ef sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Gwyddelod.
Hanner Cyntaf
Er mai Connacht gafodd bwyntiau cyntaf y gêm o droed Parks wedi saith munud, yr ymwelwyr o Gymru a gafodd gais cyntaf y gêm.
Chwaraewr gorau’r rhanbarth y tymor hwn, Kahn Fotuali’i, oedd y sgoriwr ac roedd gan ei dîm bedwar pwynt o fantais yn dilyn trosiad Matthew Morgan.
Wnaeth y fantais honno ddim para’n hir wrth i’r blaenasgellwr, Willie Faloon, daro’n ôl i Connacht hanner ffordd trwy’r hanner, 10-7 yn dilyn trosiad Parks.
Llwyddodd y maswr cartref gyda chic gosb arall cyn yr egwyl hefyd wrth i Connacht adael am yr ystafell newid chwe phwynt ar y blaen.
Ail Hanner
Cyn chwaraewr y Gleision a gafodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner hefyd, gyda’i drydedd cic gosb yn rhoi mwy nag un sgôr rhwng y ddau dîm wedi 47 munud.
Caeodd Morgan y bwlch i bedwar drachefn gyda thri phwynt ddeg munud o’r diwedd ond llwyddodd Parks i sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm ac i atal y Gweilch rhag cipio pwynt bonws gyda chic gosb a gôl adlam hwyr.
22-10 y sgôr terfynol yn Galway felly, canlyniad sy’n cadw’r Gweilch yn bedwerydd yn y tabl ar noson lle y gallant fod wedi codi dros Leinster i’r trydydd safle. Mae Connacht ar y llaw arall yn codi dros Gaeredin i’r nawfed safle.
.
Connacht
Cais: Willie Faloon 17’
Trosiad: Dan Parks 18’
Ciciau Cosb: Dan Parks 7’, 32’, 47’, 75’
Gôl Adlam: Dan Parks 78’
.
Gweilch
Cais: Kahn Fotuali’i 13’