Caeredin 16–17 Gleision
Y Gleision aeth â hi mewn gêm agos yn erbyn Caeredin yn y RaboDirect Pro12 nos Wener ym Murrayfield.
Mike Paterson sgoriodd unig gais y Gleision ond roedd cicio cywir Rhys Patchell yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Cymry.
Hanner Cyntaf
Patchell oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn y chwarter cyntaf. Llwyddodd maswr y Gleision gyda dwy gic gosb tra methodd Gregor Hunter i’r tîm cartref yn y pen arall, 0-6 wedi ugain munud.
A phan lwyddodd Hunter o’r diwedd ychydig funudau wedi hynny fe ymatebodd Patchell gyda’i drydedd gic lwyddiannus.
Trosodd Hunter ei ail yntau bum munud cyn yr egwyl ond y Gleision a gafodd air olaf yr hanner cyntaf wrth i’r clo, Paterson, groesi am gais cyntaf y gêm.
Ail Hanner
Mantais dda i’r Gleision ar yr egwyl felly ond Caeredin gafodd y dechrau gorau i’r ail hanner gyda’r eilydd brop, WP Nel, yn tirio a Hunter yn trosi i gau’r bwlch i bwynt gyda hanner awr ar ôl.
Gadawodd Hunter y cae yn fuan wedyn a’r eilydd faswr, Harry Leonard, roddodd Gaeredin ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm toc cyn yr awr gyda’i ymdrech gyntaf ef at y pyst.
Ond rhif deg y Gleision oedd seren y sioe a chipiodd Patchell y pedwar pwynt i’r ymwelwyr gyda’i bedwaredd cic gosb lwyddiannus chwarter awr o’r diwedd.
Buddugoliaeth dda iawn i’r Gleision yn yr Alban felly a buddugoliaeth sydd yn ymestyn eu mantais dros y Dreigiau yn y tabl i bedwar pwynt ar ddeg. Aros yn seithfed y mae’r tîm o’r Brifddinas ond mae’n edrych yn fwyfwy tebygol mai nhw fydd trydydd tîm Cymru yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf.
.
Caeredin
Cais: WP Nel 50’
Trosiad: Gregor Hunter 51’
Ciciau Cosb: Gregor Hunter 26’, 35’, Harry Leonard 58’
.
Gleision
Cais: Mike Paterson 38’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 5’, 13’, 28’, 66’