Croatia 2 – 0 Cymru

Methodd Cymru â sicrhau ail fuddugoliaeth o’r bron heno wrth i Croatia roi gwers bêl-droed iddynt yn Stadiwm Gradski.

Unwaith eto Gareth Bale oedd yr unig obaith i Gymru wrth iddo ddisgleirio ar yr adegau prin y gwelodd y bêl.

Er hynny, ei gyn gyd-chwaraewr gyda Spurs, Luca Modric oedd seren y gêm wrth iddo reoli’r chwarae yng nghanol cae’r tîm cartref.

Camgymeriad gan Gymru arweiniodd at y gôl gyntaf i Mario Mandzukic wedi 28 munud.

Pasiodd capten yr ymwelwyr, Ashley Williams, y bêl yn ôl i’w olwr ond roedd hynny’n gamgymeriad ar y cae trwm wrth i Lewis Price ddod o dan bwysau gan Mandzukic.

Price gyrhaeddodd y bêl gyntaf, ond yn anffodus i Gymru trawodd ei gic yn erbyn yr ymosodwr gan adael hwnnw i rolio’r bêl i rwyd wag.

Roedd Cymru wedi bod o dan bwysau trwm gan yr ymwelwyr o’r cychwyn, a doedd y gôl ddim yn syndod, er bod ei natur yn siomedig.

Llwyddodd Cymru i gadw’r sgôr yn 1-0 nes yr hanner, ond yr un oedd hanes yr ail hanner wrth i Croatia barhau i reoli ac phwyso am ail.

Dyblwyd y flaenoriaeth wedi 17 munud o’r ail hanner. Llwyddodd Lewis Price i arbed y peniad gwreiddiol o gic gornel y tîm cartref ond roedd cyn ymosodwr Arsenal, Eduardo wrth law i rwydo i dri llath.

Dangosodd y Cymry ddigon o gymeriad a cheisio bachu gôl yn ôl – Andy King ddaeth agosaf gyda pheniad o groesiad Joe Allen, a bu ond y dim i Bale goroni rhediad campus arall gyda gôl wych ond arbedodd Pletikosa yn dda.

Ond doedd hi ddim i fod a heb os y tîm gorau aeth â hi’n gyfforddus.

Croatia: Pletikosa, Strinic, Simunic, Lovren, Srna, Badelj, Perisic, Rakitic, Modric, Mandzukic, Eduardo

Eilyddion: Subasic, Kresic, Vida, Schildenfeld, Radosevic, Pamic, Jelavic, Kalinic, Vukojevic, Sammir, Corluka

Wales: Price, Williams, Ben Davies, Gunter, Blake, King, Vaughan, Bale, Allen, Ledley, Morison

Eilyddion: Edwards, Richards, Craig Davies, Robson-Kanu, Wilson, Brown, Fôn Williams, Ricketts, Vokes, Church