Mae’r Twrne Cyffredinol wedi galw am gynnal cwestau newydd i farwolaethau 96 o gefnogwyr pêl-droed fu farw yn Hillsborough 23 mlynedd yn ôl.

Dywed Dominic Grieve QC y bydd yn gwneud cais i’r Uchel Lys i ddileu’r rheithfarnau gwreiddiol fel bod rhai newydd yn cael eu cynnal.

Daw’r datblygiadau diweddaraf ar ôl i adroddiad damniol i’r digwyddiad ddangos bod ’na ymdrech i geisio rhoi’r bai am y drasiedi ar y cefnogwyr.

Dywedodd Dominic Grieve fod y broses o ystyried y dystiolaeth yn parhau, ond ei fod yn cymryd y cam anarferol o gyhoeddi ei fod yn gwneud cais am gwestau newydd ar sail y dystiolaeth sydd ganddo’n barod.

Bu farw 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl yn stadiwm Sheffield Wednesday ar 15 Ebrill 1989.

Dywedodd Dominic Grieve y bydd yn gofyn i’r teuluoedd am eu barn cyn cyflwyno’r cais.

Yn ôl Aelod Seneddol Lerpwl Steve Rotheram, mae’r cyhoeddiad heddiw “yn nodi un o’r camau mwyaf yn y frwydr am gyfiawnder i’r teuluoedd ers 23 o flynyddoedd.”

Dywedodd y cwest gwreiddiol bod y 96 wedi marw o fewn 15 munud ar ôl i’r gêm ddechrau ond yn ôl  adroddiad newydd gallai bywydau 41 o’r 96 fod wedi cael eu hachub pe bai’r gwasanaethau brys wedi ymateb yn well. Daeth i’r amlwg hefyd fod 164 o gofnodion yr heddlu wedi eu haddasu er mwyn rhoi’r bai ar y cefnogwyr.