Gareth Bale
Mae rheolwr Cymru wedi dweud fod Cymru’n fwy na dim ond Gareth Bale, wrth edrych ymlaen at y gêm fawr heno yn erbyn Croatia yn Osijek.

Gareth Bale sydd wedi sgorio tair gôl Cymru yn ystod yr ymgyrch i fynd i Gwpan y Byd yn Rio, gan gynnwys gôl wefreiddiol yn y glaw i guro’r Albanwyr, ond gwadodd Chris Coleman fod Cymru’n or-ddibynnol arno.

“Mae pobol yn siarad amdano achos mae e’n gallu hudo; maen nhw’n talu arian i ddod i’w wylio,” meddai Chris Coleman.

“Ond mae gyda ni ddeg chwaraewr arall sy’n chwarae eu rhan nhw hefyd.”

Mae Cymru’n bedwerydd yn y tabl ar dri phwynt, tra bod Croatia a Gwlad Belg ar saith pwynt. Byddai buddugoliaeth heno yn rhoi Cymru mewn safle cryf yn y grŵp, ond mae Coleman wedi rhybuddio’r chwaraewyr i beidio gorffwys yn hunanfodlon ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban.

“Ni allwn ni ail-adrodd yr hyn ddigwyddodd yn erbyn Serbia.

“Mae’n gêm anodd iawn i ni yn erbyn Croatia, ond dy’n ni’n credu gallwn ni gael rhywbeth ohoni.”