Sam Warburton - cael ei anafu yn y pum munud cyntaf
Er iddyn nhw fod 15 pwynt ar y blaen ar un adeg yn ystod y gêm, colli o un pwynt a wnaeth Gleision Caerdydd yn Sale y prynhawn yma.

Er gwaethaf colli capten Cymru, Sam Warburton, yn y pum munud cyntaf, ar ôl iddo anafu ei fys, cadwodd y Gleision yn gyfforddus ar y blaen y rhan fwyaf o’r gêm.

Gyda hatric o geisiau gan asgellwr Cymru, Alex Cuthbert, yn yr hanner cyntaf, a chiciau llwyddiannus Leigh Halfpenny, roedd yr ymwelwyr 24-9 ar y blaen hanner amser.

Dechreuodd pethau fynd o’i le yn gynnar yn yr ail hanner pan ddaeth Sale â Danny Cipriani ar y cae. Yn ogystal â sgorio cais ei hun o fewn chwe munud i ddod ar y cae, fe helpodd greu cais arall i Mark Jennings, gan ddod â’r bwlch rhwng y ddau dîm i lawr i chwe phwynt.

Wedyn, saith munud o’r diwedd, aeth Caerdydd i lawr i 14 dyn wrth i Lewis Jones, a oedd wedi cymryd lle Sam Warburton, gael ei anfon i’r cwrt cosbi. Manteisiodd Sale ar wendid yr ymwelwyr wrth i Tony Buckley sgorio cais i gipio buddugoliaeth ddramatig yn y munudau olaf.