Colli o 38 i 25 fu hanes Dreigiau Casnewydd Gwent yn erbyn Wasps Llundain yn eu gêm Cwpan Amlin yn Adams Park neithiwr.

Roedd dynion Dai Young yn rhy gyflym i’r Dreigiau wrth Jack Wallace, Fabio Staibano, Billy Vunipola a Joe Simpson sgorio ceisiau dros bencampwyr 2003.

Cafodd y Dreigiau ddechrau da wrth i’r peilot Andrew Hughes sgorio cais yn yr ail funud, ond dyna oedd llwyddiant mwya’r gêm i dîm Darren Edwards.

Wrth i Nick Robinson gadw’r Wasps ar y blaen gyda’i gicio dibynadwy, roedd eu buddugoliaeth o bedwar cais yn gwbl haeddiannol. Gyda’u pwyntiau bonws mae’r tîm o Lundain bellach yn rhannu eu lle gyda Bayonne ar frig Grwp Tri.