Doedd y sgôr derfynol ddim yn adlewyrchu cyffro’r gêm Cwpan Heinken rhwng y Scarlets a Clermont yn Stade Marcel Michelin y prynhawn yma.
Cafodd yr ymwelwyr ddechrau gwych i’r gêm wrth i Jonathan Davies sgorio cais ar ôl tri munud yn unig, ac fe fuon nhw ar y blaen am y 38 munud cyntaf.
Dechreuodd pethau fynd o’i le i’r Scarlets ar ddiwedd yr hanner cyntaf pan gafodd Morgan Stoddart ei ail gerdyn melyn, a Clermont achub y blaen ar yr ymwelwyr o 16-13.
Ond er iddyn nhw orfod chwarae gyda 14 o ddynion drwy gydol yr ail hanner, fe wnaethon nhw ddal ati i roi’r Ffrancwyr dan bwysau hyd y diwedd.
Fodd bynnag, manteisiodd XV Clermont i’r eithaf ar wendid y Scarlets gyda’u 14 dyn am weddill y gêm, a chipio pwynt bonws wrth gynyddu eu sgôr i 49 pwynt.
Hyd yn oed ym munudau ola’r gêm, daliodd y Scarlets ati i geisio ymosod ond roedd y Ffrancwyr yn rhy gryf.