Dan Biggar, a sicrhaodd 18 pwynt i'r Gweilch neithiwr
Mae’r Gweilch wedi cael dechrau da i’w hymgyrch Cwpan Heineken gyda buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Treviso yn Stadiwm Liberty neithiwr.
Er gwaethaf bygythiad parhaus gan yr Eidalwyr, yn enwedig yn yr ail hanner, llwyddodd y Gweilch i ennill 38 pwynt i 17.
Enillwyd y 38 pwynt gyda phedwar cais – un gan Eli Walker, dau gan Hanno Dirksen ac un arall gan Ashley Beck – a 18 pwynt gan giciau’r maswr Dan Biggar.
Cafodd y Gweilch ddechrau da gyda Biggar yn sgorio tair cic gosb yn y 15 munud cyntaf, ac roedden nhw 16-3 ar y blaen erbyn hanner amser.
Yr Eidalwyr yn pwyso
Er i gais gan Dirksen wedi ei drosi gan Biggar ymestyn mantais y Gweilch i 20 pwynt yn fuan yn yr ail hanner, fe gawson nhw eu dal yn ddiarwybod gan ddau gais chwim o fewn dau funud i’w gilydd gan Treviso. Fe fu’r Eidalwyr o fewn chwe phwynt i’r Gweilch tan i bedwaredd cic gosb Biggar ac ail gais gan Dirksen roi’r Gweilch yn gyffyrddus ar y blaen unwaith eto.
Cafodd y pwynt bonws ei gipio bedwar eiliad cyn y diwedd gyda chais gan Beck i ddiweddu’r gêm ar nodyn uchel.
Er yn llawenhau yn y fuddugoliaeth, dywedodd hyfforddwr cefnwyr y Gweilch, Gruff Rees, nad oedd yn hapus gyda rhai agweddau o berfformiad ei dîm.
“Doedd y gêm ddim mor gyffyrddus ag oedd hi’n edrych ar bapur,” meddai.
“Roedd yna gyfnodau yn y gêm na oedd oedden ni’n rheoli’r hyn oedden ni’n ei wneud ac fe wnaethon ni roi ein hunain o dan bwysau.
“Ar ôl ennill mantais iach yn y 20-25 cyntaf, fe dynnodd y chwaraewyr eu llygad oddi ar y bêl, ac roedd hynny’n dangos amarch at Treviso.”