Gareth Bale yn dathlu ar ôl sgorio'r gôl a seliodd y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban funud o'r diwedd
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi canmol dycnwch ei chwaraewyr ar ôl iddyn lwyddo i sicrhau buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn yr Alban ym munudau ola gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.

Roedd yr Alban wedi bod ar y blaen ers i James Morrison sgorio ar ôl hanner awr, ond fe wnaed y sgôr yn gyfartal gan gic o’r smotyn gan Gareth Bale lai na deng munud cyn y diwedd. Gyda munud yn unig o amser arferol y gêm ar ôl, llwyddodd ail gôl ddramatig gan Bale i selio’r fuddugoiaeth i Gymru.

Mae’r fuddugoliaeth yn ddiwedd ar rediad trychinebus o golli pum gêm yn olynol ers i Coleman gael ei benodi’n rheolwr, ar ôl colli 2-0 i Wlad Belg yn y gêm ddiwethaf a 6-1 i Serbia yng ngêm gyntaf Grŵp A.

‘Hyder’

“Fe fydd hyn y rhoi hyder i’r tîm,” meddai Coleman ar ôl y gêm.

“Mae’n cymryd llawer o ddycnwch i ddal ati pan ydych chi 1-0 i lawr. Fe wnaethon ni ddal ati. Wnaethon ni ddim colli ffydd. Ar ddiwedd y dydd y chwaraewyr sy’n cyfrif – roedd yn rhaid iddyn gynhyrchu. Ond allan nhw ddim wedi adweithio’n ddim gwell – dw i’n meddwl eu bod nhw’n wych ac yn haeddu’r fuddugoliaeth.”

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Cymru oddi ar waelod y grŵp i’r pedwerydd safle, y tu ôl i wlad Belg sydd ar y brig a Croatia sy’n ail – sydd ill dwy â saith pwynt o dair gêm, a Serbia, sydd yn drydydd ar bedwar pwynt.