Owain Schiavone sy’n trafod y benbleth sy’n wynebu rheolwr Cymru cyn iddo herio’r Alban.

Mae’n gêm dyngedfennol i Gymru yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos fory.

Ennill, ac fe fyddan nhw nôl ynddi yn nhermau’r ymgyrch ragbrofol, a chyda pherfformiad da bydd yr hyder yn siŵr o ddychwelyd.

Colli, ac mae’r gobeithion o gyrraedd Rio 2014 yn deilchion a dyfodol Chris Coleman fel rheolwr ar y tîm yn y fantol.

Yn anffodus tydi’r paratoadau heb fod yn ddelfrydol i reolwr Cymru, gydag un o’r chwaraewyr, os nad y chwaraewr mwyaf dylanwadol yn absennol o’r garfan.

Mae’r dyfalu’n parhau ynglŷn â dyfodol gyrfa ryngwladol Craig Bellamy, ond bydd rhaid i Gymru ymdopi hebddo am y ddwy gêm nesaf o leiaf.

Dim lwc

Ychydig iawn o lwc mae Coleman wedi’i gael gyda’i garfan hyn yn hyn. Roedd derbyn swydd rheolwr Cymru dan yr amgylchiadau y gwnaeth wastad yn mynd i fod yn sialens a dwi’n edmygu ei ddewrder.

Ydy, mae o wedi cael rhediad gwael hyd yn hyn, ond roedd colli Gary Speed yn mynd i gael effaith negyddol ar y tîm pwy bynnag fyddai’n ei olynu. Yr hyn sydd heb helpu Coleman yw’r chwaraewyr sydd wedi bod yn absennol ym mhob gêm hyd yn hyn.

Er enghraifft – dydy Coleman heb allu rhoi Bellamy a Gareth Bale ar y cae gyda’i gilydd eto. Rhain ydy’n dau arf ymosodol pennaf Cymru, ac yn syml iawn rydan ni’n hanner y tîm os ydy un ohonynt yn eisiau.

Tydi Wayne Hennessey, sef golwr gorau Cymru o bell ffordd, ddim wedi chwarae i Coleman eto chwaith oherwydd anafiadau. Mae gôl geidwad da yn allweddol i’r tîm – y man cychwyn a sylfaen yr amddiffyn. I raddau helaeth y golwr sy’n gosod yr amddiffyn a chyda phob parch iddyn nhw, dydy Boaz Myhill, Jason Brown a Lewis Price ddim yn dod yn agos at Hennessey.

Mae amddiffyn Cymru wedi cael tipyn o dolc hefyd – roedd colli’r cefnwr Neil Taylor cyn dechrau’r ymgyrch yn ergyd, cyn i gerdyn coch anffodus James Collins ychwanegu at broblemau’r rheolwr.

Yr wythnos hon mae Coleman wedi colli dau arall, David Edwards a Joel Lynch, tra bod Adam Matthews allan o’r gêm gyntaf o leiaf.

Hyder

Mae’r garfan yn edrych yn reit denau cyn herio’r Albanwyr felly ac mae’n rhaid i’r rheolwr ddewis ei dîm yn ofalus os yw am sicrhau buddugoliaeth.

Mae angen hyder ar y tîm, felly’n bersonol buaswn i’n ei gynghori i ddewis cymaint â phosib i chwaraewyr sydd wedi chwarae’n rheolaidd i’w clybiau eleni gan obeithio bod eu hyder personol nhw’n uchel hyd yn oed os yw hyd yn oed os yw hyder y tîm yn isel!

Gôl geidwad ydy’r penderfyniad mwyaf efallai, a fyswn i’n dewis Owain Fôn Williams. Efallai mai yn yr Adran Gyntaf mae o’n chwarae, ond mae o’n ddewis cyntaf ac mae ei dîm ar frig y gynghrair, tra bod y ddau ddewis arall yn methu cael lle yn eu timau hwy.

Byswn i’n ystyried taflu Ben Davies i mewn fel cefnwr hefyd – mae o’n cadw ei le yn nhîm Abertawe ac mae ei hyder yn siŵr o fod yn uchel.

Un cysur ydy bod Aaron Ramsey wedi bod yn chwarae mwy i Arsenal yn ddiweddar. Dwi’n credu bydd ildio’r gapteniaeth yn faich oddi-ar ei ysgwyddau a gobeithio y gallwn ei weld yn chwarae heb bwysau.

Mae Arsenal yn tueddu i’w ddefnyddio ar yr asgell, a gallai hyn fod yn opsiwn i Gymru hefyd. Dwi’n credu ei fod yn trio’n rhy galed yn y canol weithiau, yn enwedig yn ‘y twll’ lle mae wedi bod yn chwarae i Gymru a byddai safle lletach yn ei ryddhau’n fwy.

Yr un safle arall sy’n gur pen i’r rheolwr ydy’r ymosodwr. Mae’n joban sy’n gofyn tipyn o chwaraewr, a bydd rhaid i Coleman ddewis rhwng Steve Morison a Sam Vokes.

Chwaraeodd Morison yn dda yn y gemau olaf dan arweiniad Speed, ond ers hynny mae wedi bod yn siomedig – mae o’n chwaraewr amrwd iawn. Mae mwy o sglein i Vokes ac mae o wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i Burnley eleni .

Dyma’r tîm fyswn i’n ei ddewis:

Owain Fôn Williams

Chris Gunter

Ben Davies

Ashley Williams

Darcy Blake

Joe Ledley

David Vaughan

Joe Allen

Sam Vokes

Aaron Ramsey

Gareth Bale

Pwy bynnag fydd Coleman yn ei ddewis, efallai mai’r peth pwysicaf yw bod yr holl gefnogwyr yn cefnogi’r tîm, a’r rheolwr i’r eithaf – mewn undeb mae nerth!