(Llun PA)
Fe fydd Comisiwn Cwynion yr Heddlu yn cyhoeddi heddiw sut y maen nhw’n bwriadu gweithredu yn sgil yr adroddiad damniol am drychineb Hillsborough.

Roedd y Comisiwn wedi addo ystyried y dystiolaeth yn yr adroddiad, a ddangosodd fod 164 o ddatganiadau plismyn wedi cael eu newid ar gais uwch swyddogion.

Roedd 116 o’r rheiny wedi eu newid er mwyn cael gwared ar feirniadaeth o ymddygiad yr heddlu pan gafodd 96 o bobol eu lladd mewn gêm bêl-droed yn 1989.

Mae’r adroddiad hefyd wedi awgrymu y gallai bron hanner y bywydau fod wedi eu hachub petai cymorth wedi dod ynghynt.

Mae galwadau wedi bod am erlyn yr uwch swyddogion oedd yn gyfrifol am y celwydd ond fe allai rheolau gyfyngu ar allu’r Comisiwn i ymchwilio ymhellach.