Chris Coleman
Mae capten newydd Cymru’n dweud eu bod eisiau ennill y gêm heno yn erbyn yr Alban er mwyn y rheolwr, Chris Coleman.

Fe ddywedodd fod y feirniadaeth o Coleman yn annheg gan mai’r chwaraewyr sydd wedi methu â pherfformio ar y cae.

“Rhaid i ni ennill y gêm yma er ei fwyn e,” meddai Ashley Williams, sydd wedi cymryd band y capten oddi ar Aaron Ramsey. “Mae wedi cael ei feirniadu.

“R’yn ni’n teimlo fod hynny ychydig yn annheg,” meddai wrth Radio Wales. “Nid ei fai e yw e, ond ein bai ni.”

Chwilio am fuddugoliaeth

Mae Cymru a’r Alban yn chwilio am eu buddugoliaeth gynta’ yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ond mae Cymru hefyd yn ceisio dod tros gweir o 6-1 yn erbyn Serbia.

Un darn o newyddion da i Chris Coleman yw fod prif ymosodwr Cymru, Gareth Bale, yn ffit.