Dywed is-reolwr Cymru, John Hartson, fod rhaid i dîm Cymru sicrhau perfformiad da yn ogystal â buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban.

Wrth siarad â’r wasg ddoe dywedodd bod sesiynau hyfforddi’r garfan yr wythnos hon wedi bod yn dda a bod y chwaraewyr yn edrych ymlaen at herio’r Albanwyr nos yfory.

“Mae’r hyfforddi wedi bod yn dda” meddai Hartson.

“Mae agwedd y chwaraewyr wedi bod yn wych ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr [at y gêm].”

“Ry’n ni’n gwybod beth sy’n rhaid i ni wneud, ry’n ni’n gwybod pa mor bwysig ydy sicrhau tri phwynt, ond dy’n ni ddim yn tanbrisio’r Alban achos mae ganddyn nhw dîm cryf iawn a chymysgedd dda o chwaraewyr a phrofiad.”

Mae Hartson yn disgwyl awyrgylch gêm ddarbi nos Wener wrth fod y chwaraewyr yn adnabod ei gilydd ac wedi chwarae yn erbyn ei gilydd o’r blaen.

“Ry’n ni’n disgwyl iddi fod yn gêm gyflym a ffyrnig fel y byddech chi’n disgwyl o gêm  Brydeinig arferol” meddai Hartson.

Perfformiad gwell

Mae gan Gymru record dda yn erbyn yr Albanwyr yn ddiweddar, a dywedodd Hartson y byddai’r tîm yn ceisio defnyddio hynny i’w mantais.

Mae’r Alban hefyd wedi cael dechrau sigledig i’w hymgyrch, ond hynny dywedodd Is-reolwr Cymru ei fod yn disgwyl iddynt berfformio’n well oddi-cartref gan fod llai o bwysau arnyn nhw

Cyfaddefodd ei bod yn gêm fawr a bod angen ennill ar Gymru, ond bod y perfformiad yr un mor bwysig â’r canlyniad.

“Mae’n rhaid i ni wella ar gêm Serbia lle doedd y perfformiad ddim yn ddigon da.”

“Fe gyfaddefodd y rheolwr hynny ei hun, ac ry’n ni eisiau gwell perfformiad.”

“Mae’n rhaid i ni wella ar y gêm ddiwethaf os ydan ni am ddod yn agos at Yr Alban, sydd wedi cael dwy gêm gyfartal … ond, roedd disgwyl iddyn nhw ennill o leiaf un o’r gemau hynny.”

“Felly mae’n gêm fawr ac mae’r canlyniad yn un anferthol.”