Dan Lydiate
Dywed cyfarwyddwr rygbi Dreigiau Casnewydd Gwener, Robert Beale, fod y rhanbarth am wneud popeth yn eu galw i gadw gafael ar eu blaenasgellwr Dan Lydiate.
Mae Lydiate wedi’i anafu ar hyn o bryd, ond mae’r Dreigiau’n ymwybodol iawn bod ei gytundeb yn dod i ben a bod clybiau Ffrainc yn dechrau dangos diddordeb ynddo.
Collodd y rhanbarth ddau o’u chwaraewyr rhyngwladol, Aled Brew a Luke Charteris, i glybiau Ffrainc dros yr haf, a’r gred yw bod Racing Metro’n awyddus i ddenu Lydiate i Baris.
Ond, mae’r Dreigiau’n benderfynol o gadw gafael ar eu seren rheng ôl a dywed Beale ei fod eisoes wedi dechrau trafod â’r chwaraewr cyn iddo dorri ei bigwrn yn erbyn Caeredin fis diwethaf.
“Siaradais â Danny cyn iddo gael ei anafu gan ddweud, fel busnes, yr hoffem ni wybod lle mae’n gweld ei ddyfodol” meddai Beale.
“Os yw’n gweld ei ddyfodol gyda’r Dreigiau yna mae angen i mi siarad â’r bwrdd er mwyn ei gadw gyda’r rhanbarth.”
“Ry’n ni am ei gadw mor hir â phosib ac fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i’w gadw yma, ond mae terfyn i’r hyn y gallwn ni gynnig.”
“Fe wnawn ni bopeth gallwn ni, fel y gwnaethon ni gyda Luke Charteris ac Aled Brew. Dwi’n credu bod Danny’n hapus yma – mae’n ddyn ei filltir sgwâr ac mae ei fywyd yn cylchdroi o gwmpas ei rygbi yma, ei deulu a’r fferm.”
“Mae ar gyfnod gwahanol o’i yrfa o’i gymharu â Luke a dwi ddim yn credu ei fod yn cael ei yrru gan arian, ond os ydy rhywun yn cynnig pot enfawr o arian i chi yna efallai bod hynny’n anodd ei wrthod.”
Cytundeb ‘ar y cyd’
Mae cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau wedi cyfaddef ei fod wedi dechrau trafod cytundeb ar y cyd gydag Undeb Rygbi Cymru er mwyn cadw Lydiate.
Daw hyn ar ôl i gadeirydd Gleision Caerdydd, Peter Thomas, ddweud ei fod wedi agor trafodaeth ynglŷn â chytundeb tebyg i gadw Jamie Roberts yng Nghymru.
“Ry’n ni’n sicr wedi codi’r mater gan ddweud y byddem ni’n hoffi cymorth, os oes cymorth ar gael, i gadw Dan Lydiate yn ein rhanbarth ac yn chwarae i Gymru” meddai Beale.
“Dy’n ni heb dderbyn unrhyw adborth go iawn i hynny”
“Dwi’n gwybod bod llawer o drafodaethau’n digwydd rhwng URC a Rygbi Rhanbarthol Cymru ynglŷn â chytundebau ar y cyd, ond dwi heb weld dim ar bapur fy hun.”