Joe Allen
Mae papur newydd lleol yn dweud bod Joe Allen ar fin ymuno gyda Lerpwl, ond bod Abertawe yn dal i drafod y ddêl gyda Lerpwl.

Yn ôl yr Evening Post mae’r Cymro o Sir Benfro eisoes wedi cytuno amodau gyda chlwb Anfield, sydd wedi cynnig £12.5m amdano, ond bod Abertawe am dderbyn £15m cyn ei ryddhau o’i gytundeb.

Roedd Joe Allen yn rhan allweddol o chwarae deniadol Abertawe pan oedd Brendan Rodgers wrth y llyw, ac mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd Rodgers yn ei ddenu i ymuno gydag ef yn  Lerpwl.

Mae lle i Allen yng nghanol cae Lerpwl ar ôl iddyn nhw werthu Alberto Aquilani i Fiorentina am £7m.

Mae Joe Allen yng ngharfan Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ac mae disgwyl iddo chwarae yn y gêm heno yn erbyn Uruguay. Dywedodd rheolwr newydd Abertawe, Michael Laudrup, nad yw wedi siarad gydag ef ers ymuno â’r clwb.

James Collins

Mae amddiffynnwr Cymru yn dychwelyd i West Ham United ar ôl arwyddo cytundeb pedair blynedd.

Gadawodd West Ham yn 2009 er mwyn ymuno gydag Aston Villa ac mae’r chwaraewr 28 oed o Gasnewydd yn dychwelyd i Barc Upton, ble treuliodd bedair blynedd.

Dechreuodd Collins ei yrfa gyda Chaerdydd.