Pum diwrnod ar ôl i’r Gemau Olympaidd ddechrau, mae Tîm GB wedi ennill ei medal aur cyntaf.

Helen Glover a Heather Stanning yw’r merched cyntaf i ennill medal aur yng nghystadleuaeth y rhwyfo.

Cafodd y ddwy eu cymeradwyo o flaen torf enfawr yn Eton Doney a oedd yn cynnwys y tywysogion William a Harry.

Dywedodd Heather Stanning wrth y BBC, “Dw i wedi blino’n lân ond yn gwbl ecstatig ar yr un pryd. Dw i eisiau cwympo i’r llawr ond dw i mor hapus mod i ond eisiau neidio o gwmpas.”

Dyw ei phartner, Helen Glover, 26, ond wedi dechrau rhwyfo ers pedair blynedd.

Cafodd y ddwy eu dewis fel partneriaid tair blynedd yn ôl.