Mae un o sêr tim pêl-droed Prydain yn amau a fydd y tîm yn dod ynghyd eto.

Ar drothwy’r gêm heno yn erbyn Uruguay yng Nghaerdydd, dywed Craig Bellamy y byddai’n hoffi gweld y tîm yn parhau yng Ngemau Olympaidd y dyfodol ond nad yw’n credu y bydd hynny’n digwydd.

“Mae wedi bod yn arbennig, un o’r profiadau gorau dw i wedi ei gael fel chwaraewr.

“Ond mae’n debyg mai hwn fydd y tro olaf y bydd yn digwydd, sy’n drueni.”

Mae Craig Bellamy, a’r capten Ryan Giggs, wedi serennu yn nwy gêm gyntaf Prydain ac mae angen gêm gyfartal arnyn nhw heno er mwyn mynd ymlaen i’r wyth olaf.

Mae Bellamy, sydd â thatŵ o fuddugoliaeth Owain Glyndŵr ym mrwydr Bryn Glas ar hyd ei fraich dde, wedi adleisio Ryan Giggs trwy ofyn i’r dorf beidio bwio God Save the Queen.

Mae disgwyl i Stadiwm y Mileniwm fod yn llawn heno, ond mae’r trefnwyr wedi dweud na fydd Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei chanu cyn y gêm, ar y cyd gyda God Save the Queen.

“Tîm GB sy’n chwarae, ac anthem GB fydd yn cael ei chanu cyn y gêm” meddai llefarydd ar ran Locog.