Capten Cymru Aaron Ramsey. Llun FAW
Dim ond 37 o wledydd sydd yn well na Chymru pan mae’n dod i bêl-droed, yn ôl rhestr detholion diweddaraf FIFA.
Mae Cymru’n aros yn 38 ar y rhestr o flaen gwledydd fel Wcráin, Gwlad Pwyl a Gwlad Belg.
Dyma safle uchaf Cymru ar y rhestr ers mis Medi 1995, er iddyn nhw golli ei dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Costa Rica a Mecsico.
Er i Loegr golli yn rownd yr wyth olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2012 fis diwethaf, maen nhw’n esgyn i’r pedwerydd safle.
Sbaen, a enillodd gystadleuaeth Ewro 2012, sy’n parhau ar frig y rhestr.
Mae Brasil yn disgyn tu allan i’r deg uchaf am y tro cyntaf ers llunio’r rhestr nôl yn 1993.
10 uchaf rhestr detholion FIFA
1. Sbaen
2. Yr Almaen
3. Wrwgwai
4. Lloegr
5. Portiwgal
6. Yr Eidal
7. Yr Ariannin
8. Yr Iseldiroedd
9. Croatia
10. Denmarc
–
26. Gweriniaeth Iwerddon
38. Cymru
49. Yr Alban
102. Gogledd Iwerddon