Mae clwb pêl-droed Manchester United wedi dechrau’r broses o werthu eu cyfranddaliadau ar y farchnad stoc yn Efrog Newydd gyda’r gobaith o godi £64 miliwn.
Nid yw prisiau’r cyfranddaliadau wedi eu gosod hyd yn hyn ond y gobaith yw y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu dyledion y clwb.
Fe fyddai’n gadael rheolaeth y clwb yn nwylo’r teulu Glazer o’r Unol Daleithiau oedd wedi prynu Manchester United yn 2005 am £940 miliwn, gan adael dyledion o £423 miliwn.
Roedd y clwb wedi ceisio gwerthu cyfranddaliadau ar y farchnad stoc yn Singapore’r llynedd ond fe gafodd y cynlluniau eu gohirio oherwydd yr economi ansicr.
Mae Duncan Drasdo, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Manchester United, wedi croesawu’r cynlluniau i geisio lleihau dyledion y clwb.