Ray Verhei
Mae cyn-hyfforddwr gyda charfan Cymru pan oedd Gary Speed wrth y llyw wedi dweud fod tîm Cymru wedi dirywio.

Mewn cyfweliad gyda gwefan ryngwladol Goal.com dywedodd Raymond Verheijen fod hi’n drist gweld perfformiad Cymru yn erbyn Mecsico fis diwethaf.

“Mae popeth wnaethon ni adeiladu yn 2011 wedi ei chwalu” meddai’r arbenigwr ffitrwydd, gan ychwanegu nad oes gan Gymru arddull chwarae bellach.

“Does dim rhaid i chi fod yn Einstein i weld fod ymgyrch cwpan y byd Cymru yn mynd i fod yn drychineb. Rwy’n teimlo trueni dros chwaraewyr Cymru achos maen nhw’n garfan dalentog sy’n haeddu mynd trwyddo i’r bencampwriaeth gyda chefnogaeth staff hyfforddi da.”

Dywedodd Verheijen, sy’n adnabyddus am siarad a thrydar yn ddiflewyn ar dafod, ei fod yn falch na chafodd swydd Cymru yn dilyn marwolaeth Gary Speed, er iddo geisio amdani.

“Ni fyddai wedi gweithio o achos amaturiaeth yr FAW. Nid yw’r bobol sydd yn rhedeg y Gymdeithas bêl-droed yn gallu delio gyda phersonoliaethau cryf” meddai Verheijen,

Mae Raymond Verheijen wedi bod yn gynghorwr ym mhencampwriaeth yr Euro i garfan Rwsia, a gafodd eu bwrw allan o’r bencampwriaeth yn annisgwyl ar ôl colli i Groeg nos Sadwrn.