Mae’r Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd yn ymchwilio i honniadau yn y Sunday Times bod cynrychiolwyr y gemau mewn dros 50 o wledydd yn gwerthu miloedd o docynnau ar y farchnad ddu.

Mae’r papur newydd wedi cyflwyno dogfennau i’r pwyllgor sy’n honni bod swyddogion ac asiantaethau Olympaidd wedi cael eu dal yn gwerthu mileodd o docynnau ar y farchnad ddu am lawer mwy na’u gwerth.

Un honniad ydi bod yr Arglwydd Coe, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith gemau Lundain,  wedi cael ei ddarbwyllo gan aelod o bwyllgor Gwlad Groeg i roi rhagor o docynnau iddo am fod y cyflenwad gwreiddiol wedi gwerthu allan.

Mae trefnwyr gemau Llundain wedi gwadu hyn gan ddweud bod cais wedi cael ei gyflwyno i Sebastian Coe ond ei fod wedi ei wrthod.

Roedd gohebwyr y Sunday Times wedi cymryd arnyn eu bod yn werthwyr tocynnau anghyfreithlon o’r Dwyrain Canol ac mewn ymchwiliad barodd ddeufis, mae nhw’n honni ei bod wedi dod ar draws llygredd ymhlith cynrychiolwyr 54 o wledydd.

Mae’r Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd yn dweud y byddan nhw’n ymdrin yn llym iawn efo unrhyw wlad sydd wedi torri’r rheolau.