Tom Prydie
Mae asgellwr tîm rygbi dan 20 oed Cymru, Tom Prydie, yn ffyddiog y byddan nhw’n gallu cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi Iau’r Byd yn Ne Affrica.

Mi fydd Cymru yn wynebu Seland Newydd am yr eildro yfory yn y rownd gynderfynol yn Stadiwm Newlands yn Cape Town. Y tro cyntaf iddyn nhw gyfarfod yn y gystadleuaeth, Cymru ddaeth i’r brig gyda sgôr o 9-6.

“Mae’n gyfle enfawr i ni fel chwaraewyr yn ogystal â chyfle enfawr i Gymru,” meddai Prydie.

Y llynedd, mi wnaeth Cymru golli o 92-0 i’r Crysau Duon ifanc, ond y tro hwn, mi wnaethon nhw roi sioc i Seland Newydd ac maen nhw’n teimlo’n hyderus wrth edrych ymlaen at y rownd gynderfynol.

“Dwi’n gobeithio y gallen ni guro Seland Newydd eto a chyrraedd y rownd derfynol,” meddai’r asgellwr o Borthcawl.