Gareth Roberts
Mae gyrrwr rali ifanc o Gymru wedi cael ei ladd mewn damwain yn ystod rali geir ar ynys Sicily.
Roedd Gareth Roberts, 24 oed, yn dod o Gaerfyrddin ac roedd yn gyd-yrrwr i’r Gwyddel, Craig Been.
Roedd y ddau yn cystadlu yn y Targa Florio-Rally Internazionale Di Sicilia pan ddigwyddodd y ddamwain ar gymal 8 o’r ras.
Ar waetha ymdrechion y timau meddygol, bu farw Gareth o’i anafiadau. Cafodd y ras ei chanslo fel arwydd o barch.
“Mae’r IRC yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu a chyfeillion Gareth sydd yn ein meddyliau yn ystod y cyfnod hynod o drist hwn,” meddai llefarydd ar ran yr IRC (Sialens Rali Genedlaethol).
Mi wnaeth Gareth a Craig Been ennill ras Academi’r WRC y llynedd gan ddathlu yng Nghaerdydd ar ddiwedd y cymal olaf.
Dechreuodd Gareth gystadlu yn 2004, ac fe ymunodd â Breen yn 2009. Dywedodd Breen yn ddiweddar fod Gareth yn “ddewin.” Ac meddai, “Faswn i ddim yn medru gwneud hyn hebddo fo.”