Siom i Ryan Jones a gweddill y Cymry
Mae Cymru wedi colli’r Ail Brawf mewn diweddglo hynod o ddramatig i’r gêm yn stadiwm Etihad ym Melbourne.

Mi wnaeth eilydd y Wallabies, Mike Harris, sgorio cic gosb yn eiliadau ola’r gêm i dorri calonnau’r Cymry.

Ar ddiwedd y gêm, roedd bechgyn Cymru ar eu gliniau ar ôl ymdrech arwrol, ond roedd eu methiant i gadw’r meddiant ar adeg dyngedfennol wedi costio’n ddrud iddyn nhw.

Fe wnaethon nhw ddechrau’i ail hanner yn wych gyda chais gan Jonathan Davies, gyda throsiad gan Leigh Halfpenny.

Mi roedd hi’n frwydr agos wedyn gyda Halfpenny a Barnes yn cicio ciciau cosb llwyddiannus am yn ail.

Gyda’r sgôr yn 19  – 17, fe anfonwyd Copper Vuna i’r gell gosb ar ôl iddo daclo Halfpenny yn beryglus yn yr awyr. Cic gosb arall i Gymru gan Halfpenny ond ni fanteisiodd Cymru yn llawn ar ymadawiad Cooper Vuna.

Fe fethodd Berrick Barnes gydag un gic gosb. Gyda’r sgôr yn 22-23 roedd y gobeithion yn uchel mai hemisffer y Gogledd fyddai’n dathlu ar ddiwedd y gêm.

Yna, gyda deg eiliad yn weddill o’r gêm, fe glywyd chwibaniad y dyfarnwr. Cic gosb i Awstralia. Yng nghanol yr holl sŵn a chynnwrf fe lwyddodd Harris rhywsut i ganolbwyntio ac fe giciodd y bêl rhwng y pyst.

Siom enfawr i’r Cymry, a phawb yn awr yn troi eu golygon at y Prawf olaf yn Sydney.