George North
Fe ddechreuodd  Cymru yr Ail Brawf yn addawol  ym Melbourne gyda George North yn sgorio cais hyfryd ar ôl tri munud, a throsiad llwyddiannus gan Leigh Halfpenny.

Roedd pethau’n edrych yn dda i’r Cymry, felly, gyda’r Wallabies yn edrych braidd yn sigledig.

Ond yna, o dan arweiniad Genia a Pocock, fe lwyddodd yr Awstraliaid i gynyddu’r pwysau ar Gymru.  Bu Barnes yn llwyddiannus gyda thair cic cosb, ac yna fe sgoriodd y Wallabies gais. Rob Horne wnaeth groesi’r llinell gais ar ôl i’r Awstraliaid lwyddo i dorri llinell amddiffynnol y Cymry.

A fydd hon yn ergyd farwol i Gymru? Bydd yn rhaid iddyn nhw frwydro’n galed yn yr ail hanner er mwyn gwireddu’r freuddwyd o guro’r Wallabies am y tro cyntaf yn Awstralia ers 43 mlynedd.