Abertawe 1-0 Lerpwl
Cafodd Abertawe’r diweddglo perffaith i’w tymor cyntaf arbennig yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Lerpwl. Mae sawl tîm wedi ei chael hi’n anodd ar y Liberty’r tymor hwn a doedd Lerpwl ddim yn wahanol wrth i gôl hwyr Danny Graham gipio’r tri phwynt i’r Elyrch.
Rheolodd Abertawe’r hanner cyntaf yn llwyr a daeth Joe Allen yn agos at agor y sgorio wedi dim ond naw munud. Dwynodd y bêl gan Jonjo Shelvey yng nghanol cae cyn rhedeg yn bwrpasol at y cwrt cosbi ac ergydio fodfeddi heibio’r postyn .
Daeth Gylfi Sigurdsson yn agos i’r tîm cartref wedi 33 munud hefyd. Enillodd gic rydd ar ochr y cwrt cosbi cyn ei chymryd ei hunan a gorfodi arbediad da gan Alexander Doni yn y gôl i Lerpwl.
Roedd Lerpwl yn well wedi’r egwyl a bu bron i Andy Caroll eu rhoi ar y blaen mewn steil ddeg munud wedi’r egwyl. Rheolodd y bêl yn y cwrt cosbi cyn taro taran o foli din-dros-ben ar y targed ond llwyddodd Michel Vorm i’w harbed.
Ond Abertawe a orffennodd y gêm gryfaf a daeth y gôl yn y diwedd bedwar munud o’r diwedd. Daeth Scott Sinclair o hyd i Angel Rangel ar yr asgell chwith a daeth ei groesiad yntau o hyd i Graham yn y canol. Roedd gan brif Sgoriwr Abertawe dipyn o waith i’w wneud o hyd ond sgoriodd gydag ergyd lân o 12 llath ar y cynnig cyntaf.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu fod Abertawe yn gorffen eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair yn yr unfed safle ar ddeg gyda 47 pwynt. Yr unig awgrym o siom i’r Elyrch oedd y ffaith iddynt fethu â gorffen yn yr hanner uchaf a hynny achos fod West Brom wedi sgorio un gôl yn fwy na hwy’r tymor hwn!