Manchester City yw pencampwyr yr Uwch Gynghrair ar ôl curo QPR 3-2 y prynhawn yma.

Mewn gêm lawn cyffro i gloi’r tymor, llwyddodd y tîm i gyrraedd brig prif gynghrair yr FA am y tro cyntaf ers 1968.

Roedd popeth yn dibynnu ar y gêm heddiw, gan y gallai methiant fod yn ddigon i roi’r teitl i’w harch elynion Manchester United.

Digon du oedd rhagolygon City tan y funudau olaf y gêm, gyda QPR ar y blaen 2-1 hyd nes i gôl gan Edin Dzeko ac un arall gan Sergio Aguero sicrhau’r fuddugoliaeth ddramatig ar y diwedd.