Llanelli 1–0 Aberystwyth

Mae gobeithion Llanelli o chwarae yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf yn fyw o hyd wedi iddynt guro Aberystwyth ar Stebonheath brynhawn Sadwrn. Ond roedd angen amser ychwanegol ar y Cochion i ennill rownd gynderfynol y gemau ail gyfle o flaen camerâu Sgorio er i Aber chwarae’r gêm gyfan fwy neu lai gyda deg dyn.

Roedd llai na phum munud wedi eu chwarae pan anfonwyd Michael Walsh oddi ar y cae yn dilyn tacl flêr ar Ashley Evans. Roedd troed Walsh yn uchel a’i styds yn dangos ond roedd yn benderfyniad dewr iawn gan y dyfarnwr, Bryn Markham-Jones, mor gynnar yn y gêm.

Y tîm gorau a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant wedi hynny ond prin y cafodd Stephen Cann yn y gôl i Aberystwyth ei fygwth mewn gwirionedd. Fe wnaeth Jason Bowen rwydo funud cyn yr egwyl ond roedd chwiban y dyfarnwr eisoes wedi ei chwythu oherwydd trosedd gan Chris Venables ar Michael Howard.

A daeth Antonio Corbisiero’n hynod agos gyda tharan o ergyd hefyd yn eiliadau olaf yr hanner hefyd wrth iddi aros yn ddi sgôr ar yr egwyl.  

Dechreuodd deg dyn Aber yr ail hanner yn addawol a bu rhaid i Craig Richards yn y gôl i Lanelli fod yn effro i arbed peniad Wyn Thomas wedi pum munud o’r ail gyfnod.

Craig Williams a gafodd y cyfleoedd gorau yn y pen arall. Fe lwyddodd Cann i arbed dwy ergyd o bellter yn gymharol gyfforddus ond dylai Williams fod wedi gwneud yn well gyda pheniad o groesiad Bowen toc cyn yr awr.

Cynyddodd Llanelli’r pwysau ar gôl Aberystwyth yn y chwarter awr olaf a bu rhaid i Cann wneud arbediad da iawn i atal Williams rhag ennill y gêm i Lanelli dri munud o’r diwedd.

Doedd dim amdani felly ond amser ychwanegol ac Aberystwyth a gafodd y cyfle cyntaf. Ond er i Geoff Kellaway guro’r gôl-geidwad fe ergydiodd yn erbyn y rhwyd ochr o ongl dynn.

Daeth y gôl agoriadol wedi 108 o funudau yn y diwedd ac ar ôl amddiffyn mor ddewr am dros awr a hanner, roedd hi’n anffodus braidd mai camgymeriad amddiffynnol erchyll gan Aberystwyth a roddodd y gôl i’r Cochion.

Llithrodd Sion James yn y cwrt cosbi i roi cyfle ar blât i Jordan Follows. Cymerodd yntau’r ergyd ar y cynnig cyntaf gan guro Cann yn isel i’w chwith.

Roedd Aberystwyth yn haeddu ciciau o’r smotyn o leiaf ond ychydig iawn o gyfleoedd a grewyd gan yr ymwelwyr yn y deg munud olaf wrth iddi orffen yn 1-0 i’r tîm cartref. Wedi dweud hynny, roeddynt braidd yn anffodus na chawsant gic o’r smotyn yn y munudau olaf wedi i Josh Macauley gael ei lorio yn y cwrt cosbi.

Llanelli braidd yn ffodus felly ond yn y rownd derfynol serch hynny.

Y Bala 2-1 Prestatyn

Y Bala fydd gwrthwynebwyr Llanelli yn y rownd derfynol wedi iddynt hwy guro Prestatyn ar Faes Tegid yn y rownd gynderfynol arall.

Rhoddodd Ian Sheridan y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond tri munud cyn i David Hayes unioni’r sgôr i Brestatyn wedi hanner awr o chwarae. Ond sicrhaodd y Bala eu lle yn y rownd derfynol gydag ail gôl yn gynnar yn yr ail hanner gan gyn flaenwr Prestatyn, Lee Hunt.

Bu bron i’r ymwelwyr orfodi amser ychwanegol gyda chyfle hwyr ond clirwyd y bêl oddi ar y llinell wrth i freuddwydion Ewropeaidd Prestatyn ddod i ben.