Casnewydd 0–2 Caerefrog

Colli fu hanes Casnewydd yn Wembley brynhawn Sadwrn yn rownd derfynol Tlws yr FA. Roedd dwy gôl yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gaerefrog a thorri calonnau’r tîm o Gymru.

Roedd bron i ugain mil yng nghartref pêl droed Lloegr i wylio’r ddau dîm o Uwch Gynghrair y Blue Square yn herio’i gilydd. Ac er i Gasnewydd orffen y tymor bymtheg safle tu ôl i Gaerefrog doedd dim tystiolaeth o hynny yn y munudau agoriadol wrth i’r Cymry ddechrau orau.

Yn wir, dylai Ramone Rose fod wedi eu rhoi ar y blaen yn y deg munud cyntaf wedi i ffugiad deheuig Sam Foley ei roi mewn digonedd o le o flaen gôl. Ond roedd ergyd Rose yn wan a llwyddodd gôl-geidwad Efrog, Michael Ingham, i arbed yn gyfforddus.

Fe wnaeth Rose yn well gyda chyfle dipyn anoddach toc wedi hanner awr. Yn dilyn gwaith da ar yr asgell chwith fe ergydiodd o 25 llath gan fethu’r targed o fodfeddi’n unig.

Ceisiodd Nat Jarvis ei lwc funudau’n ddiweddarach gydag ergyd o bellter ond crymanodd yntau’r bêl heibio’r postyn hefyd.

Dechreuodd Caerefrog wella wrth i’r egwyl agosáu a daeth Patrick McLaughlin yn hynod agos cyn i Jon Challinor orfodi arbediad da gan Glyn Thompson yn y gôl i Gasnewydd.

Di sgôr ar yr egwyl felly ond roedd y tîm o ogledd ddwyrain Lloegr ar y blaen toc wedi’r awr. Curwyd amddiffyn Casnewydd i gyd gydag un bas syml dros eu pennau gan Daniel Parslow. Cyrhaeddodd Matty Blair y bêl cyn Glyn Thompson a chododd hi’n gelfydd dros y golwr i roi ei dîm ar y blaen.

Ac roedd hi’n ddwy ychydig funudau yn ddiweddarach diolch i Lanre Oyebanjo. Gwnaeth Ashley Chambers yn dda ar yr asgell dde cyn croesi i Oyebanjo yn y canol. Gwnaeth yntau’r gweddill i roi dwy gôl o fantais i’w dîm hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd yn anffodus er i Ismail Yakubu ddod yn agos i dîm Justin Edinburgh. Doedd dim hyd yn oed gôl gysur i fod wrth i’r amddiffynnwr benio yn erbyn y postyn ddau funud o’r diwedd.

Siom i Gasnewydd yn y diwedd felly ond rhediad gwych i gyrraedd y rownd derfynol a diwrnod da i’r cefnogwyr.