Gweilch 45–10 Munster
Mae’r Gweilch yn rownd derfynol y RaboDirect Pro12 ar ôl chwalu Munster ar y Liberty nos Wener.
Gosodwyd y sylfaen ar gyfer y fuddugoliaeth gyda pherfformiad amddiffynnol gwych a sgoriodd y tîm cartref bum cais wrth ennill mewn steil yn y diwedd.
Hanner Awr y Maswyr
Y ddau faswr oedd sêr yr hanner awr agoriadol wrth i’r gêm ddechrau yn llawn cyffro.
Tri munud yn unig oedd ar y cloc pan sgoriodd maswr Munster, Ian Keatley, y cais agoriadol a chais da oedd o hefyd. Rhedodd Keith Earles ar ongl effeithiol i fylchu ar ôl derbyn pas ei gyd ganolwr, Lifeimi Mafi, ac roedd Keatley wrth law i orffen y symudiad. Trosodd ei gais ei hun i roi’r Gwyddelod saith pwynt ar y blaen.
Caeodd Dan Biggar y bwlch i bedwar pwynt gyda chic gosb wedi wyth munud cyn i Shane Williams ddod yn agos i sgorio cais cyntaf y Cymry. Er i’r asgellwr bach groesi’r llinell gais roedd eisoes wedi rhoi ei droed dros yr ystlys. Ond fu dim rhaid i’r Gweilch aros yn hir.
Daeth y cais i Biggar o dan y pyst ddau funud yn ddiweddarach yn dilyn dadlwythiad gwych yn y dacl gan Ryan Jones. Trosodd Biggar y ddau bwynt ychwanegol hefyd i’w gwneud hi’n 10-7 i’r tîm cartref wedi 12 munud.
Unionodd Keatley’r sgôr hanner ffordd trwy’r hanner yn dilyn trosedd yn ardal y dacl gan Richard Hibbard. Ond roedd y Gweilch chwe phwynt ar y blaen yn fuan wedyn diolch i ddwy gic gosb lwyddiannus o droed Biggar, y naill wedi 21 munud a’r llall wedi hanner awr.
Diweddglo Da i’r Hanner
Bu rhaid i’r Gweilch amddiffyn yn arwrol am ddeg munud wedi hynny ac er gwaethaf ymdrechion Munster fe ddwynodd y Gweilch y bêl ar ddiwedd y deugain munud agoriadol.
Ni fyddai llawer wedi eu beio am ei chicio allan ac anelu am yr ystafell newid bryd hynny ond roedd gan y Gweilch syniadau gwahanol wrth iddynt wrthymosod i sgorio cais gwych.
Bylchodd y cefnwr, Richard Fussell, o’i linell 22 medr ei hunan cyn cadw ei ben a derbyn cymorth gan yr wythwr, Joe Bearman. Amserodd yntau ei bas yn hyfryd i Kahn Fatuali’i a chwblhaodd y mewnwr y symudiad hyd-y-cae trwy dirio o dan y pyst.
Ychwanegodd Biggar y ddau bwynt wrth i’r Gweilch orffen yr hanner ar y blaen o 23-10.
Sicrhau’r Fuddugoliaeth
Roedd lle’r Gweilch yn y rownd derfynol yn ddiogel wedi chwarter awr o’r ail hanner diolch i gic gosb Biggar a chais Hanno Dirksen.
Trosodd Biggar y tri phwynt wedi i Munster ddymchwel sgrym ar ôl 49 munud a daeth trydydd cais y rhanbarth Cymreig ychydig funudau yn ddiweddarach.
Enillodd Justin Tipuric y bêl gyda thacl dda ar Ronan O’Gara a defnyddiodd yr olwyr y bêl gyflym i greu cyfle i Dirksen ar yr asgell dde. Dangosodd yntau dipyn o gyflymder cyn plymio dros y llinell yn y gornel. Er i Biggar fethu gyda’r gic am y tro cyntaf roedd y Gweilch bellach 31-10 ar y blaen.
Gorffen Mewn Steil
Gorffennodd y Gweilch y gêm mewn steil gyda dau gais arall yn y chwarter olaf. Daeth y cyntaf o’r rheiny i Andrew Bishop toc wedi’r awr yn dilyn pas fach gelfydd gan Shane Williams.
A’r eilydd fewnwr, Rhys Webb, a gafodd y pumed ddeg munud o’r diwedd. Cymerodd Webb gic gosb gyflym ar ei linell 22 medr ei hun ac roedd wrth law i orffen y symudiad yn y pen arall ambell gymal yn ddiweddarach. Cais da arall gan y Gweilch a ffordd addas i goroni’r perfformiad.
Llwyddodd Biggar gyda’r ddau drosiad cyn gadael y cae wedi cyfrannu 25 pwynt at y sgôr. 45-10 oedd y sgôr terfynol a hynny’n hollol haeddianol.
Ymateb
Does dim dwywaith fod y Gweilch wedi gwella’n aruthrol ers i Steve Tandy gymryd yr awenau ychydig fisoedd yn ôl ac mae’n debyg mai hwn oedd y perfformiad gorau eto. Roedd yr hyfforddwr yn ddyn hapus iawn ar ddiwedd y gêm:
“Roedd yn berfformiad gwych gennym. Mae curo Munster wastad yn dda ac roedd y cefnogwyr yn anhygoel heno. Ond rhaid inni beidio â rhoi’r cart o flaen y ceffyl achos mae gennym rown derfynol i’w hennill o hyd gobeithio.”
Bydd y rownd derfynol honno ymhen pythefnos yn erbyn enillwyr y gêm rhwng Leinster a Glasgow yfory. Os mai Leinster fydd yn fuddugol bydd yn gêm yn cael ei chwarae yn Nulyn ond os all yr Albanwyr ennill bydd y Gweilch yn chwarae’r ffeinal gartref.