Rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh
Yfory am dri fe fydd Casnewydd yn herio Caerefrog yn Stadiwm Wembley.  Disgwylir i 15,000 o gefnogwyr fynychu’r gêm i annog y tîm yn eu blaenau.

Am y tro cyntaf yn hanes y clwb mewn 100 mlynedd, fe fydd Casnewydd yn cystadlu yn y rownd derfynol am y Tlws FA Carlsberg.

Pe bai Casnewydd yn ennill yfory, cred y rhelowr y gallai hynny fod yn gatalydd i rywbeth gwirioneddol wych.

Mae rheolwr Casnewydd yn obeithiol y gall ei brofiadau ef ei hun yn Wembley, gyda thîm Spurs, helpu ysbrydoli ei chwarewyr yn erbyn Caerefrog

‘‘Nid ydym am fynd i fwynhau’r diwrnod.  Rydym am ennill y gêm â’r tlws,” meddai Justin Edinburgh. “Dim ond clod sydd gennyf i’r chwaraewyr.  Maen nhw wedi bod yn rhagorol ers troad y flwyddyn, ac rydym am fynd i’r rownd derfynol yn hyderus.”