Mae rheolwr Tottenham Harry Redknapp wedi gwrthod adroddiadau bod Barcelona wedi cytuno ar ffi am Gareth Bale.

Awgrymodd papur newydd Sbaeneg (Marca) bod Barcelona wedi cynnig 40 miliwn ewro (£32 miliwn) am y Cymro.

Cyfaddefodd Bale fis diwethaf na fyddai’n gallu gwrthod symud i glwb fel Barcelona, a dywedodd Dani Alves amddiffynnwr Barcelona mewn cyfweliad ddiweddarach y byddai’n wych cael Bale yn y garfan.

Fodd bynnag, mae Redknapp yn mynnu na fydd y Cymro 22 oed yn gadael Tottenham yr haf hwn.

‘‘Dydw i ddim yn gwybod unrhyw beth am y stori yma.  Fyddwn i ddim yn meddwl bod yna fymryn o wirionedd yno,’’ meddai.