Mi fydd y Gweilch yn herio Munster heno am yr hawl i gamu ymlaen i ffeinal y Gynghrair Geltaidd.

Mae’r gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru.

Er bod y ddau dîm yn eitha’ cyfartal, y Gweilch sydd wedi cipio’r fuddugoliaeth adre’ ac i ffwrdd yn erbyn y Gwyddelod y tymor hwn, yn fuddugol o 17-13 yn Iwerddon a 19-13 ar gae’r Liberty.

Ond mae hyfforddwr y Gweilch yn rhybuddio na fydd canlyniadau blaenorol y tymor hwn yn cyfrif rhyw lawer heno.

“Mae’n mynd i fod yn ornest galed rhwng dau dîm sy’n ‘nabod ei gilydd yn dda iawn, dau dîm fydd yn cael cryn gwffas i weld pwy gaiff reoli’r gêm,” meddai Steve Tandy. “Mi ddylai fod yn ornest dynn, nerfus oherwydd fel yna mae gemau rhwng y Gweilch a Munster.”

Mae’r fflancar Justin Tipuric yn holliach wedi iddo ddiodde’ sbasm yn ei gefn tra’n chwarae ym muddugoliaeth y Gweilch dros Aironi y penwythnos diwetha’.

Bydd y Munster Munch heb ddau o’u blaenwyr glew, Paul O’Connell a Damien Varley, oherwydd anafiadau cas. Ond mae Ronan O’Gara wedi ei enwi yn y garfan, wedi i’r maswr profiadol orfod gorffwys am sawl wythnos oherwydd anaf i’w goes.