Mae Ymddiriedolaeth a Chlwb Cefnogwyr Caerdydd wedi rhyddhau datganiad ar y cyd y bore ‘ma sy’n dweud eu bod nhw’n “hynod ddiolchgar” am gefnogaeth gwŷr busnes o Malaysia ac yn gobeithio y bydd eu buddsoddiad yn y clwb pêl-droed yn gallu parhau.

Bu ymateb chwyrn i gynlluniau’r perchnogion i newid lliw crysau cartref yr Adar Gleision i goch, a rhoi draig goch ar y bathodyn yn hytrach na gwennol las. Ddoe dywedodd Cadeirydd y clwb, Dato Chan Tien Ghee, bod y cynlluniau wedi eu gollwng “yn wyneb gwrthwynebiad llafar nifer o’r cefnogwyr”.

Ond mae pryderon bod cefnogwyr Caerdydd wedi rhoi’r bêl yn eu rhwyd eu hunain wrth i’r Cadeirydd ddweud eu bod nhw nawr yn “ail-asesu” eu buddsoddiad yn y clwb ac yn ystyried chwilio am fuddsoddwyr newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiredolaeth Cefnogwyr Caerdydd wrth raglen radio Good Morning Wales BBC Cymru y bore yma nad yw’n credu fod y buddsoddiad o £100m, a oedd yn cyd-fynd gyda’r newid crysau, bellach yn mynd i ddigwydd.

Mae’r datganiad gan ddau fudiad y cefnogwyr yn mynegi eu diolchgarwch i’r prif berchennog, Vincent Tan, am ei fuddsoddiad ar adeg economaidd anodd, ond yn dweud ei bod hi’n “bwysig iawn i ddyfodol y clwb fod deialog rhwng cynrychiolwyr y cefnogwyr a bwrdd y clwb, yn enwedig pan mae cynigion radical yn cael eu hystyried”.

Mae bwrdd cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd yn cwrdd ddydd Mawrth nesaf,  a bydd disgwyl mawr i weld a ddaw newyddion pellach o’r cyfarfod hwnnw.