James Collins
Mae rheolwr Cymru yn mynnu nad yw gyrfa ryngwladol James Collins ar ben, er iddo hepgor amddiffynwr Aston Villa o’r garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn America yn hwyrach yn y mis.
Bu Collins yn ran allweddol o dîm Cymru dros yr wyth mlynedd ddiwetha’, ond yn nyddiau ola’ Gary Speed wrth y llyw roedd Darcy Blake o Gaerdydd wedi cymryd ei le.
Dyw Rob Earnshaw na Danny Gabbidon yn y garfan ychwaith.
“Nid wyf yn llosgi pontydd gyda’r chwaraewyr profiadol hyn. i’r gwrthwyneb, maen nhw’n rhan fawr o’r garfan wrth I ni symud ymlaen,” meddai Coleman.
Ond un hen ben sydd wedi ei ddewis yw Craig Bellamy.
“Rydw i am barhau i’w ddewis hyd nes ei fod e’n dweud wrtha i fel arall.”
Mae Coleman hefyd wedi dweud nad yw’n disgwyl i unrhyw chwaraewr dynnu allan o’r gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsic.
Yn ogystal, mae’n mynnu bod ei chwaraewyr gorau yn ymrwymo i Gymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
‘‘Os mae’r chwaraewyr wedi cael eu hanafu neu wedi blino’n gorfforol neu yn feddyliol, mae hynny’n fater arall. Ond nid ydw I’n disgwyl i neb dynnu allan.”
Y gêm yn erbyn Mecsico fydd y gyntaf o ddwy gêm gyfeillgar, gyda’r ail yn erbyn Bosnia-Hercegovina.
Mae Coleman wedi dewis chwaraewyr fel Craig Bellamy, Gareth Bale ac Aron Ramsey yn y gobaith y bydd y chwaraewyr yn denu cefnogwyr a rhoi profiad i’r chwaraewyr ifanc chwarae gyda’r goreuon.
Yn ôl Coleman mae Mecsico, sy’n ugeinfed yn safleoedd FIFA, yn mynd i fod yn her adeiladol i’w garfan.
‘‘Maen nhw’n dîm da. Mi wnes i wylio nhw’n aml yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica. Maen nhw’n dîm sy’n dechnegol tu hwnt ac yn cynnwys nifer o chwaraewyr cyflym.”