Mae rheolwr Manchester United wedi dweud mai Ryan Giggs yn unig – o blith ei chwaraewyr dros 23 oed – fydd yn cael chwarae i dîm Ynysoedd Prydain yn Olympics Llundain.
Caiff rheolwr tîm Prydain ddewis tri chwaraewr sydd dros 23 oed i gyd-fynd â gweddill y chwaraewyr iau.
Mae Giggs yn 38 oed, ac yn un o sêr pêl-droed amlyca’r byd ers ugain mlynedd a mwy.
Ond fydd y Sais Paul Scholes na’r Gwyddel Johnny Evans ddim yn cael gadael Man U i gymryd rhan.
Ac os na fydd Rio Ferdinand a Wayne Rooney wedi eu dewis i chwarae i Loegr ym Mhencampwriaethau Ewrop, fyddan nhw ddim yn mynd i’r Olympics ychwaith.
Mae Giggs wedi awgrymu y byddai’n derbyn y gwahoddiad i fynd i’r Olympics, er bod sawl pyndit pêl-droed wedi dweud nad yw’r gêm wir yn rhan o ysbryd y digwyddiad.
Ac mi fydd rhai o gefnogwyr Cymru yn crafu eu pennau wrth ofyn sut y gallodd Giggs roi’r gorau i chwarae dros ei wlad bum mlynedd yn ôl, a hynny er mwyn ymestyn ei yrfa gyda Man U, ond eto fod yn ddigon ffresh i chwarae dros Brydain yr Haf hwn.