Chris Coleman
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm  yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd ar 27 Mai.

Mae Craig Bellamy, 32, wedi ei gynnwys yn y garfan, ond ni fydd ymosodwr Caerdydd, Robert Earnshaw, na’r ddau amddiffynwr James Collins a Danny Gabbidon yn cymryd rhan. Mae’r sêr Aron Ramsey a Gareth Bale hefyd wedi eu cynnwys yn y gêm gyfeillgar.

Dyma fydd gêm gyntaf Coleman fel rheolwr Cymru.

Y garfan:

Golwyr :- Jason Brown, Lewis Price, Rhys Taylor

Amddiffynwyr :- Chris Gunter, Neil Taylor, Sam Ricketts, Ashley Williams, Adam Matthews, Neil Eardley, Darcy Blake

Canol cae :- Joe Allen, Aaron Ramsey, Andrew Crofts, David Vaughan, Joe Ledley, Andy King, David Edwards

Ymosodwyr :- Gareth Bale, Craig Bellamy, Hal Robson-Kanu, Steve Morison, Simon Church, Sam Vokes

Chwaraewyr wrth gefn – Owain Fôn Williams, Adam Henley, Rhoys Wiggins, Billy Bodin, David Cotterill, Jermaine Easter