Mae’r bocsiwr Amir Khan wedi son am ei siom ar ol i’w ornest yn erbyn Lamont Peterson gael ei ganslo.

Roedd y pencampwr o America wedi methu prawf cyffuriau.

Datgelwyd yn gynharach yr wythnos hon bod Peterson, oedd wedi curo Khan ym mis Rhagfyr i gipio’r teitl WBA a IBF, wedi cael prawf positif am steroid sydd wedi ei wahardd.

Roedd na amheuaeth a fyddai’r ornest rhwng y ddau ar 19 Mai yn Las Vegas yn cael ei gynnal, ond fe gyhoeddodd Khan heddiw bod yr ornest bellach wedi ei ganslo.

Dywedodd mewn cyfweliad gyda Sky Sports News: “Rydw i’n hynod o siomedig oherwydd roeddwn i wedi ymarfer yn galed iawn ar gyfer yr ornest.

“Roedd yn sioc fawr i mi glywed bod Peterson wedi methu prawf cyffuriau. Mae wedi fy mrifo i yn fawr oherwydd roeddwn i wir eisiau rhoi perfformiad da a dangos i’r byd mor dda ydy Amir Khan.”