Mae safle’r ail reng yn edrych yn denau iawn yn rhanbarth y Sgarlets ar ôl iddyn nhw gyhoeddi heddiw fod Damian Welch yn gadael am Loegr a chlwb Caerwysg.

Ymunodd y chwaraewr 29 oed â’r rhanbarth yn 2009 ac mae wedi datblygu’n chwaraewr poblogaidd diolch i’w hoffter o gario’r bêl a’i gyflymdra anghyffredin am flaenwr mawr.

Diolchodd prif hyfforddwr y Sgarlets, Nigel Davies, iddo am ei gyfraniad, a dywedodd fod buddsoddi mewn chwaraewyr newydd ym mhump blaen y pac yn flaenoriaeth i’r Sgarlets dros yr haf.

Welch yw’r trydydd ail reng addawol i adael y Sgarlets yn yr wythnosau diwethaf. Mae Dominic Day o Sir Benfro ar ei ffordd i Gaerfaddon, tra bod y clo rhyngwladol Lou Reed yn symud i Gaerdydd at y Gleision.