Aberystwyth 0–1 Derwyddon Cefn

Mae un tîm o Gynghrair Undebol Huws Gray yn y gwpan o hyd wedi i Derwyddon Cefn drechu Aberystwyth yng Nghoedlan y Parc brynhawn Sadwrn. Roedd gôl Tony Cann ddau funud cyn yr egwyl yn ddigon i sicrhau lle’r Derwyddon yn y pedwar olaf.

Bu rhaid i Chris Mullock yn y gôl i’r Derwyddon fod ar flaenau’i draed yn gynnar i atal Geoff Kellaway cyn i’r ymwelwyr fynd ar y blaen wedi 43 munud. Gwnaeth Mark Harris yn dda ar yr asgell dde cyn i’r tîm o Wrecsam ennill y frwydr rhwng y ddau Cann, ymosodwr y Derwyddon, Tony, yn saethu heibio i golwr Aberystwyth, Steve.

Cafodd Tony Cann gyfle i ddyblu’r fantais yn yr ail hanner a daeth Krzystzof Nalborski, Wyn Thomas a Josh Macauley i gyd yn agos i’r tîm cartref. Ond roedd un gôl yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth a lle yn y rownd gynderfynol i’r Derwyddon

Airbus 3–1 Caerfyrddin

Mae Airbus yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo Caerfyrddin ar Y Maes Awyr brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Adam Worton y tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr pan wyrodd ei ergyd oddi ar un o amddiffynnwyr Caerfyrddin ac i gefn y rhwyd.

Roedd hi’n ddwy toc wedi’r awr pan sgoriodd Neville Thompson yn dilyn croesiad cywir Mark Danks.

Rhoddodd Nick Harrhy lygedyn o obaith i’r ymwelwyr wedi hynny cyn i Mike Hayes sicrhau’r fuddugoliaeth i Airbus funud cyn y diwedd.

Bala 1–1 Llanelli (Bala’n ennill wedi C.O.S.)

Mae’r Bala yn rownd nesaf y cwpan ar ôl curo’r deiliaid, Llanelli, ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn. 1-1 oedd hi ar ddiwedd y naw deg munud ac felly hefyd ar ôl amser ychwanegol ond y tîm cartref aetrh â hi ar giciau o’r smotyn.

Llanelli a aeth ar y blaen pan sgoriodd Chris Venables tua diwedd yr hanner cyntaf. Ond roedd y Bala’n gyfartal wedi dim ond saith munud o’r ail hanner diolch i gôl Lee Hunt.

Felly yr arhosodd hi am weddill y 120 munud felly doedd dim amdani ond ciciau o’r smotyn. A’r Bala enillodd o 5-4 wedi i gic y chwaraewr reolwr, Andy Legg, daro’n erbyn y trawst.

Y Seintiau Newydd 1–0 Castell Nedd

Mae’r Seintiau Newydd yn y rownd gynderfynol ar ôl curo Castell Nedd yn Neuadd y Parc o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Sgoriodd Greg Draper unig gôl y gêm ddeg munud cyn yr egwyl i sicrhau lle’r Seintiau ym mhedwar olaf y gystadleuaeth.