Cefnogwyr Lerpwl
Bydd miloedd o gefnogwyr Lerpwl yn cael cryn drafferth cyrraedd gêm olaf Cwpan Carling yn erbyn Caerdydd yn Wembley heddiw wedi i drên fynd oddi ar y cledrau yn Swydd Gaer.

Mae trenau o Orsaf Lime Street yn Lerpwl i Crewe wedi cael eu canslo ac mae Virgin Trains yn cynghori pobl i yrru i Crewe, Stafford neu Stoke a dal trên oddi yno gan ychwanegu y byddan nhw’n darparu bysiau i gysylltu Lerpwl efo Crewe Stafford a Runcorn.

Mae cwmni Virgin Trains wedi ymddiheuro am hyn gan ddweud mai trên beirianyddol aeth oddi ar y cledrau ac nid un yn cario teithwyr.

Bydd cefnogwyr o Gaerdydd i Kuala Lumpur yn gobeithio mai’r adar gleision fydd yn fuddugol. Mae perchennog clwb Caerdydd, Tan Sri Vincent Tan Chee Yioun yn byw ym Malaysia ac wedi dweud y bydd miloedd yno yn gwylio’r gêm.

Mae cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi dweud hefyd y byddan nhw’n talu teyrnged i gefnogwr laddwyd y tu allan i stadiwm Wembley ym mis Medi llynedd yn fuan cyn i’r gêm rhwng Cymru a Lloegr gychwyn.

Bydd llecyn yn cael ei gadw yn Wembley er mwyn i gefnogwyr osod sgarffiau, fflagiau a blodau er cof am Michael Dye  fu farw ar ôl iddo gael ei gicio yn ei ben a’i guro.