Fulham 1–0 Abertawe                                                                      

Sgoriodd Alekandar Mitrovic yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i Fulham guro Abertawe yn y Bencampwriaeth nos Fercher.

Gôl y gŵr o Serbia a oedd unig gôl y gêm yn Craven Cottage a bu rhaid aros 94 munud amdani!

Cafodd y blaenwr gyfle gwych i roi’r tîm cartref ar y blaen ddau funud o ddiwedd y naw deg yn dilyn trosedd Connor Roberts ar Neeskens Kabano yn y cwrt cosbi, ond cafodd ei gic o’r smotyn ei harbed gan Freddie Woodman.

Roedd hi’n ymddangos wedi hynny fod Elyrch am ddychwelyd i Gymru gyda phwynt, ond nid felly y bu wrth i Mitrovic dorri eu calonnau yn y pedwerydd munud o amser brifo gyda pheniad o groesiad Aboubakar Kamara.

Mae’r canlyniad yn codi Fulham i’r trydydd safle yn y tabl ond yn gadael Abertawe yn nawfed.

.

Fulham

Tîm: Rodak, Odoi, Hector, Ream, Bryan, Arter (McDonald 90+6’), Cairney, Knockaert (Kamara 83’), Reid, Cavaleiro (Kebano 78’), Mitrovic

Gôl: Mitrovic 90+4’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton (Roberts 82’), Cabango, Rodon, Bidwell, Fulton, Grimes, Kalulu (Garrick 64’), Gallagher, Ayew, Brewster

Cardiau Melyn: Brewster 35’, Fulton 54’, Naughton 66’, Ayew 88’

.

Torf: 17,626