Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y gêm gyfartal 4-4 oddi cartref yn Hull neithiwr (nos Wener, Chwefror 14) “yn teimlo fel colled”.
Yr Elyrch gafodd y gorau o’r meddiant am gyfnodau helaeth o’r gêm yn Stadiwm KCOM, gan ergydio at y gôl ugain o weithiau.
Ond sgoriodd Hull gyda phob ergyd at y gôl, gan fynd ar y blaen dair gwaith trwy Leonardo Da Silva, Marcus Maddison a Mallik Wilks.
Sgoriodd Wayne Routledge, Kyle Naughton a Jordan Garrick i unioni’r sgôr bob tro, cyn i Rhian Brewster roi’r Elyrch ar y blaen gyda chwe munud yn weddill.
Ond rhwydodd Tom Eaves i achub pwynt i’r tîm cartref ym munudau ola’r gêm.
Chwarae heb y bêl
“Mae’r goliau’n dweud popeth wrthoch chi am y gêm,” meddai Steve Cooper.
“Ry’n ni wedi gweithio’n galed i sgorio goliau da iawn.
“Dechreuodd yr un gyntaf gyda’r golwr ac ry’n ni wedi gweithio’n ffordd lan y cae.
“Ry’n ni wedi bod yn siarp o gic gornel ar gyfer gôl Kyle [Naughton], mae’r drydedd gôl yn un wych ar ôl cael Andre Ayew i lawr yr ochr drwy Jake Bidwell, gyda Jordon yn cyrraedd pen y croesiad.”
Ond mae’n dweud bod y goliau ildiodd yr Elyrch yn destun siom.
“Ar y llaw arall, mae’r holl goliau wnaethon ni eu hildio wedi cael eu taflu i ffwrdd, a phob un yr un fath.
“Dydyn ni ddim wedi llwyddo i roi digon o bwysau ar y bêl gyntaf, sydd wedi gallu dod i mewn i’r cwrt cosbi.
“Dydyn ni ddim wedi ennill gyda’r peniad cyntaf, a heb godi’r ail beniad.
“Felly mae ildio pedair gôl fel yna’n destun siom ac os ydw i’n onest, mae’n teimlo fel colled.
“Ry’n ni’n parhau i gael ein cosbi gan yr un peth, ac mae’r bai arnon ni ein hunain.
“Dw i jyst wedi cael siom oherwydd y ffordd wnaethon ni amddiffyn.”