Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Manchester City apelio yn erbyn gwaharddiad rhag chwarae yng nghystadlaethau Ewrop am ddau dymor.
Maen nhw wedi’u gwahardd am dorri rheolau tegwch ariannol, ac wedi cael dirwy o 30 miliwn Ewro (£24.9m).
Fe ddaw ar ôl iddyn nhw gyflwyno’u cyfrifon o 2012 i 2016 i’r corff rheoli UEFA, ac mae’n ymwneud â derbyn gormod o arian fel rhan o gytundebau noddi’r clwb.
Mae disgwyl iddyn nhw droi at y llys chwaraeon i gael apelio yn erbyn y gwaharddiad.
Mae’r clwb yn beirniadu UEFA am y modd mae’r ymchwiliad wedi cael ei gynnal, ar ôl iddyn nhw ddweud nad yw’r clwb wedi cydymffurfio â’u hymchwiliad.
Diben y rheolau tegwch ariannol yw sicrhau nad yw clybiau’n gwario gormod o arian a mynd i drafferthion ariannol difrifol.
Pe bai’r apêl yn aflwyddiannus, byddai eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf yn mynd i’r tîm sy’n gorffen yn bumed yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor hwn.