Y Bala 1–1 Y Seintiau Newydd
Disgynodd y Seintiau Newydd o frig tabl y Cymru Premier yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn y Bala ar Faes Tegid nos Wener.
Dechreuodd y deiliaid y noson ar y brig, a’r Bala yn drydydd, ond agorodd y gêm gyfartal gôl yr un y drws i Gei Connah symud i’r safle uchaf.
Cafodd y Bala’r dechrau gorau posib wrth i Aeron Edward benio i’w rwyd ei hun o gic rydd Henry Jones.
Ond yr ymwelwyr a reolodd wedi hynny a chafodd Edwards gyfle da i unioni pethau gyda pheniad yn y pen iawn ychydig funudau cyn yr egwyl.
Llwyddodd y tîm cartref i aros ar y blaen tan yr egwyl ond cynyddu a wnaeth y pwysau arnynt ar ddechrau’r ail hanner.
Ac roedd y Seintiau’n gyfartal ar yr awr, Ryan Brobbel yn rhwydo cic o’r smotyn ddadleuol wedi i ergyd Chris Marriott daro llaw Oliver Shannon yn y cwrt cosbi.
Roedd cyfleoedd i’r ddau dîm wedi hynny; peniodd Adrian Cieslewicz yn erbyn y postyn cyn i Brobbel daro’r bêl dros y trawst i’r Seintiau a gorfododd Kieran Smith arbediad gan Paul Harriosn yn y pen arall.
Ond aros yn gyfartal a wnaeth hi wrth i’r ddau dîm orfod bodloni ar gôl yr un a phwynt yr un.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Bala’n drydydd ond mae’r Seintiau’n ildio’u lle ar y brig i Gei Connah a gafodd fuddugoliaeth gartref gyfforddus o bedair gôl i ddim yn erbyn Caernarfon.
Mae’r Seintiau’n teithio i Lannau Dyfrdwy yr wythnos nesaf wrth i’r frwydr am y gynghrair boethi.
.
Y Bala
Tîm: Tibbetts, Burns, S. Smith, Stephens, Burke, Jones (Molyneux 71’), K. Smith, Leslie, Mendes, Shannon, Venables
Gôl: Edwards [g.e.h.] 5’
Cardiau Melyn: Shannon 26’, Burke 76’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Davies, Ebbe (Draper 67’), Brobbel, Redmond, Cieslewicz (Byrne 85’), Mullan, Edwards, Holland
Gôl: Brobbel [c.o.s.] 59’